Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 20 Mehefin 2012

 

Amser y cyfarfod:
13:30

 

 

 

 

Agenda

(73)v4

 

<AI1>

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth (45 munud) 

 

Gweld y cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (5 munud) 

 

Gweld y cwestiynau

</AI2>

<AI3>

Cwestiwn Brys

 

Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Prif Weinidog eluro ar frys beth yw ymdrechion Llywodraeth Cymru i ddenu Taflegrau Niwclear Trident i Aberdaugleddau?

</AI3>

<AI4>

3. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog mewn perthynas â Biliau Preifat a Gwelliannau Amrywiol (5 munud) 

 

NDM5014 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

 

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygiadau Arfaethedig i’r Rheolau Sefydlog: Biliau Preifat a Newidiadau Amrywiol’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Mehefin 2012; a

 

2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu’r Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiadau B a D i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.

 

Dogfen Ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Busnes

</AI4>

<AI5>

4. Dadl ar Ymchwiliad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i Ddarpariaeth Tai Fforddiadwy yng Nghymru (60 munud) 

 

NDM5013 Ann Jones (Dyffryn Clwyd)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, Darpariaeth Tai Fforddiadwy yng Nghymru, a gafodd ei osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Ebrill 2012.

 

Sylwer: Cafodd ymateb y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth ei osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Mehefin 2012.

 

Dogfennau Ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

Ymateb y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

</AI5>

<AI6>

5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) 

 

NDM5015 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod pwysigrwydd cysylltiadau trafnidiaeth ar gyfer twf economaidd yng Nghymru;

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol, ASau Cymru a’r Adran Drafnidiaeth i drydaneiddio Prif Reilffordd y Great Western i Abertawe a thrydaneiddio rheilffyrdd cymoedd De Cymru;

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu strategaeth integredig i gysylltu De a Gorllewin Cymru i’r brif reilffordd wedi’i thrydaneiddio; ac

 

4. Yn gresynu bod Llywodraethau olynol yng Nghymru o dan arweiniad Llafur wedi methu â chysylltu cymunedau ar draws Cymru drwy rwydwaith trafnidiaeth integredig.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt 2 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:

 

Yn gresynu nad oedd gan Lywodraeth Lafur flaenorol y DU unrhyw gynlluniau i drydaneiddio Rheilffordd y Cymoedd.

 

Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:

 

‘Yn nodi nad yw’r gwariant ar seilwaith rheilffyrdd wedi’i ddatganoli ac mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU ydyw, a bod gwariant Network Rail wedi’i ddatganoli i Lywodraeth yr Alban yn 2006.’

 

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys ar ddechrau pwynt 2:

 

‘Yn nodi na wnaeth Llywodraeth Lafur flaenorol y DU drydaneiddio’r un filltir o Brif Lein Great Western ac’

 

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ym mhwynt 2, dylid dileu ‘ASau Cymru’ a rhoi ‘ASau’ yn ei le.

 

Gwelliant 5 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:

 

‘Yn galw ar Lywodraeth Cymru i geisio datganoli cyllideb Network Rail a’r holl gyfrifoldebau eraill yn ymwneud â seilwaith rheilffyrdd.’

 

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt 4 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganfod pa mor ymarferol yw cyflwyno cerdyn Oyster ar gyfer Cymru gyfan, gan weithio gyda chwmnïau trên a chwmnïau bysiau i sicrhau bod pobl yn gallu teithio o amgylch Cymru yn rhwydd.

 

[os derbynnir gwelliant 7, bydd gwelliant 8 yn cael ei ddad-ddethol]

 

Gwelliant 7 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Ym mhwynt 4, dileu popeth cyn ‘cymunedau’ a rhoi ‘Yn croesawu’r gwaith sydd wedi’i wneud gan Lywodraeth Cymru’n Un a’r Llywodraeth Lafur bresennol i gysylltu’ yn ei le

 

Gwelliant 8 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Ym mhwynt 4, dileu: ‘Yn gresynu bod Llywodraethau olynol yng Nghymru o dan arweiniad Llafur’ a rhoi yn ei le:

 

‘Yn gresynu bod Llywodraethau olynol yn y DU o dan arweiniad Llafur a’r Ceidwadwyr’

 

Gwelliant 9 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Gogledd Cymru yn gallu manteisio ar HS2, ac i sicrhau na fydd unrhyw newidiadau yn cael effaith anffafriol ar wasanaethau prif lein West Coast i Gaergybi.

 

Gwelliant 10 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn cefnogi’r ddadl dros ailagor gorsafoedd yn Bow Street ac yng Ngharno.

</AI6>

<AI7>

6. Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud) 

 

NDM5016 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn credu:

 

a) nad oes lle i fod yn hunanfodlon yng nghyswllt cyflenwi gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ar draws Cymru;

 

b) mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am ddal Byrddau Iechyd Lleol i gyfrif drwy fecanwaith ystyrlon ar gyfer monitro ansawdd gofal mamolaeth a newyddenedigol ar draws Cymru;

 

c) bod Cymru yn wynebu sialensiau newydd a bod cyd-destun cymdeithasol ac economaidd gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yn newid yn gyson;

 

d) y dylai pob menyw yng Nghymru, ni waeth ble mae hi'n byw ac ni waeth beth yw ei chefndir cymdeithasol neu ei hethnigrwydd, allu cael gafael ar a derbyn gofal mamolaeth a newyddenedigol diogel o ansawdd uchel;

 

e) na fu gwelliant sylweddol mewn gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol er 1999; a

 

f) bod yr ystadegau cyfredol ar gyfer gwasanaethau newyddenedigol a mamolaeth yn annerbyniol.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) ddarparu arweinyddiaeth strategol a chryf i Fyrddau Iechyd Lleol ledled Cymru i sicrhau bod gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yn gwella;

 

b) sicrhau bod unrhyw adolygiad o wasanaethau newyddenedigol a wneir gan Fyrddau Iechyd Lleol yn cael ei gymeradwyo gan y Rhwydwaith Newyddenedigol i sicrhau nad yw unrhyw gynigion yn peryglu darparu gwasanaeth Cymru gyfan cynhwysfawr; ac

 

b) sicrhau bod unrhyw adolygiad o wasanaethau mamolaeth a wneir gan Fyrddau Iechyd Lleol yn cael ei gymeradwyo gan Grŵp Gweithredu Cymru Gyfan i sicrhau nad yw unrhyw gynigion yn peryglu darparu gwasanaeth Cymru gyfan cynhwysfawr.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu is-bwyntiau 1e ac 1f.

 

Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

 

cynllunio’r gweithlu yn yr hirdymor er mwyn sicrhau bod digon o staff arbenigol ar gael ar gyfer gwasanaethau newyddenedigol ledled y wlad.

 

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi toriadau Llywodraeth Cymru i gyllideb y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru a oedd yn fwy nag erioed o’r blaen, a bod modd i’r rhain beryglu unrhyw ymdrechion i wella gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ledled Cymru.

</AI7>

<AI8>

Cyfnod Pleidleisio

</AI8>

<AI9>

7. Dadl Fer (30 munud) 

 

NDM5017 Lynne Neagle (Tor-faen):

 

Effaith diwygio lles ar iechyd meddwl a lles yng Nghymru.

</AI9>

<TRAILER_SECTION>

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 26 Mehefin 2012

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>